Cyngor Amaethyddol ac Amgylcheddol Arbenigol ar gyfer Rheolwyr Tir

|Hafan|Advisory Service|Instructions|Your Farming & Environment Expert|Fees|English

Croeso i TechTalk©

TechTalk© Gwasanaeth e- Gymorth personol yw TechTalk©  ar gyfer ffermwyr a rheolwyr tir wedi ei ddarparu gan AA International Ltd.

'Dod i'n hadnabod - dod i wybod'
Cyngor arbenigol ynghych problemau amgylcheddol Cyngor ar gadw gwennyn ar gyfer Ffermwyr Cymru Cymorth i  smallholders a pherchnogion tir newydd

Sefydlwyd y wefan gyda chymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn galluogi TechTalk© i:

  • Roi cyngor technegol fforddadwy i danysgrifwyr sy'n gweithio o fewn y byd amaeth a'r amgylchedd ledled y byd.
  • Darparu tanysgrifwyr gyda chyngor penodol achos wrth achos
  • Lleihau ôl troed carbon cynghorwyr trwy ddefnyddio dulliau modern o gyfathrebu.

Mae TechTalk© yn darparu canolfan-un-alwad sy'n osgoi drysfa'r rhyngrwyd drwy fynd â'ch cwestiynau yn sydd at gynghorwyr profiadol.

Mae cynghorwyr TechTalk© yn arbenigwyr cydnabyddedig yn eu maes. Mae ganddynt brofiad ymarferol helaeth a mynediad i'r syniadau diweddaraf ym maes ymchwil, cyfuniad sy'n rhoi i chi y cyngor gorau oll ar amaethyddiaeth, coedwigaeth, garddwriaeth, marchogaeth a defnyddio dŵr, gwybodaeth a chyngor ynghylch rheolaeth, gan gynnwys ariannu prosiectau.

Caiff pob arbenigwr TechTalk©ei ddewis ar eich cyfer oherwydd eu gwybodaeth gyfredol a phrofiad ymarferol perthnasol.

Mae TechTalk© yn cynnig gwasanaethau e-Gymorth a mentora i gleientiaid yn y categorïau canlynol:

  • Ffermio yng Nghymru a'r Amgylchedd
  • Datblygiad Rhyngwladol

I ganfod mwy cliciwch yma >>

Rheolaeth Ceffylau a Merlod Ffermio yng Nghymru a'r Amgylchedd Amaethyddiaeth Tyddynnwr yn Ewrop